Hanes Sefydlu'r Achos yn Waengoleugoed

Capel Annibynwyr Waengoleugoed  (1815-

 

Mae hanes sefyldu Capel Waengoleugoed yn un ddiddorol er fod yr hanes braidd yn anodd I’w ddarganfod nes adeiladu y “Capel newydd” yn 1892.. Digwyddodd John Jones o Fferm Y Waen basio heibio Mrs Roberts Y Rossa a gofynodd Mrs Roberts a oedd yn gwybod am le iddynt gychwyn addoli yn y Waen. Cynigiodd John Jones ei Ysgugbor a dyna gychwyn ar achos yr Anniwbynwyr yn y Waengoleugoed. Yn 1815 rhoddodd John Jones darn o dir o’I fferm ( sydd I lawr y lon o’r Capel) er mwyn gael adeiladu Capel arno ac er nad oedd  John Jones  yn aelod, bu yn gyfaill I;r achos. Ar yr adeg yma yr oedd Mr  T Powell a oedd yn weinidog yn Dinbych yn gofalu am yr eglwys ond mewn amser bu I Mr William Jones un o’r aeloadau gael ei godi yn weinidog ar Waengoleugoed a rhoddodd llawer iawn o amser I’r achos nes symud I’r Fflint yn 1826. Yn yr un flwyddyn rhoddwyd alwad I Jonah Lloyd myrfyriwr a daeth yn weinidog ar yr eglwys am 30 o flynyddoedd. Yn dilyn Jonah Lloyd, daeth dau myfyriwr arall yn weinidogion sef Lewis Everett a John Williams ac yn eu hamser bu cryn adnewyddu ar y Capel . Yn dilyn y ddau tua 1868 daeth myrfyriwr arall sef William Griffith ond byr iawn bu eu arhosiad a bu yr eglwys yn ddifugail am gyfnod wedyn a dibynnu ar gweinidogion y fro a oedd yn barod iawn I ddod I wasanaethu. Er gwaetha hyn roedd y gynylleidfa ar pyrnhawn Sul yn gryf a derbynwyd llawer o wrandawyr yn gyflawn aelodau ac yn ei plith John Lloyd Pen Isa;r Waen, William Royles, John Roberts Nant Gwilym ( plwyf Tremeirchion), Mrs Jones a’I mab John Ysgol Isa a John Davies Glan Clwyd. Yn y cyfnod llewyrchus yma penderfynnwyd y bod angen Capel Newydd a llwyddwyd I sicrhau darn o dir o Ystad y Llanerch I godi Capel Newydd a agorwyd yn 1892. Gwerthwyd y hen gapel a’I droi yn dy ( ble mae Ty Gwyn y Waen heddiw). 

 

Yn 1894 rhoddwyd alwad I Parch WM Jones “Gwilym Meredydd” a bu yn weinidog tan 1924 ac mae llun hard ohonno yn y Capel hyd heddiw.Ar yr adeg yma roedd y Capel dan ddyled a bu rhaid I’r aelodau godi arian mawr I;w dalu. Yn y cyfnod yma heyfd yn ol Llyfr Parch Emlyn Richards “Pregethwrs Mon” roedd Llewelyn Christmas Lloyd ( Rhosmeirch a sefydlydd cerddorfa Mon) yn mynychu’r Capel ( ei dad yn Prif arddwr stad y Llanerch) ac yn 1911 y derbynwyd y dyn amryddawn hwn I;r weinidogaeth o Gapel Waengoleugoed.  Yn 1925 rhoddwyd alwad I’r Parch JR Evans  a bu  yn  Waengoleugoed nes 1932 – cofnodwyd bod 23 o aelodau yn perthyn I’r Capel yn y cyfnod yma. Yn 1940 rhoddwyd alwad ir Parch Wyn Evans o Rhyl a bu yn weinidog am dwy flynedd. Yn 1944 collwyd John Jones ( yr un John Jones a oedd wedi dod gyda’I  fam I’r hen  Gapel gwreiddiol)  a bu  yn Ddiacon yn y Capel am 50 mlynedd. Roedd John Jones y Castell yn ddyn arbennig a chyfranodd yn enfawr i'r achos - magodd deg o blant yn fferm y Castell a ba mab iddo y diweddar Goronwy Jones Salisbury Villa yn Ddiacon a Trysorydd gofalus a gweithgar nes ei farw cynnar yn 1976.

Yn y 40au daeth y Parchedig John Morris Jones I ofalu am Capel Waengoleugoed a  gwelwyd eto cynydd yn yr aelodau. Wedi marwolaeth y Parch John Morris Jones yn 1962 rhoddwyd alwad yn 1964 I’r Parch Emyr Lyn Evans ac wedi gyfnod o 2 flynedd hapus gyda gweinidog ifanc ac egniol aeth yn ol I De Cymry. Yn 1967 daeth y Parch Lloyd Evans i ofalu am Capel Waengoleugoed a Chapel Saesneg Ty Newydd y Rhyl ac ers iddo yntau hefyd ddychwelyd I’r De mae y Capel wedi bod yn ddi-fugail. 

  Beth sydd yn ddiddorol o ddarllen trwy hen hanesion ( yn cynnwys llyfryn o 1931) yw bod pob un yn nodi mae eglwys fach oedd Waengoleugoed ac I ddyfynnu o 1931 “Gwelir ir eglwys fechan yn Waengoleugoed sefyll yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd”. Yn 1992 dathlwyd canmlwyddiant y Capel newydd gyda oedfa dathlu a gymanfa ganu bythgofiadwy.

Beth am ein hanes ni heddiw? Yn wahanol iawn I eglwysi eraill mae Capel Waengoleugoed yn tyfu mewn y nifer sydd yn dod I;’r moddion.Yn ddiweddar mae llawer o son am rhoi gweithwyr mewn eglwysi er mwyn eu galluogi I fod yn fwy hunan gynhaliol a trefnu gwasanaethau ayb –rydym wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd bellach! Mae y Capel wedi bod yn hynod o ffodus bod “arweinwyr lleyg” wedi cyfrannu a chynnal – yn ei mysg y ddiweddar Mrs Megan Evans,  Mrs Beryl Jones a Mrs Margaret Lloyd Williams. Ein nod fel eglwys yw ceisio gwrando ar llais Duw trwy gweddi a gweithredu o fewn ein cymdeithas wledig. Rydym wedi magu perthynas gyda Cartref Nyrsio  o fewn y plwyf ac ynghyd a chynnal gwasnaethau rheoliadd yn mynd I’r Cartref a bod gyda unrhyw un sydd yn ddifrifol wael ac efallai gyda ddim teulu I ymweld. Wedi cael gwasanaeth o dan ofal un o Bugeiliaid y Stryd o Wrecsam rydym yn cefnogi’r ymgyrch arbennig yma trwy cynhaliaeth ariannol ynghyd a bod yn partneriaid gweddi pan meant allan ar strydoedd Wrecsam ar nos Wener a Sadwrn. Bob blwyddyn rydym yn cynnal gwasanaeth arbennig dan olau Canwyll er budd Hosbis Sant Cyndeyrn a chafodd y gwasanaeth yma ei recordio yn 2007 ac ar y Sul olaf o 2007 daeth oedfa’r bore o Gapel Waengoleugoed. Gan mae y Capel yw’r unig man o addoiad mewn plwy bach gwasgaredig ( gyda 150 o blwyfolion) rydym yn credu eu bod  yn bwysig cynnig gofal bugeiliol I bawb. Rydym yn ymweld gyda rhai gwael o fewn yr ardal ac yn cynnig cludiant I;r ysbyty ac yn cynnig cymorth ymhob sefyllfa ee teulu ifanc pan oedd aelod o’r teulu mewn carchar ayb. Yn ddiweddar bu i teulu arall golli merch a tad o fewn dau -nid oedd gyda’r teulu unrhyw gyswllt gyda Chapel nag Egwlys ond derbyniodd y teulu yn ddiolchgar y cyfle I gael dod I;r Capel fel man tawel. Rydym yn cynnig cofio mewn gweddi o fewn ein hoedfa y rhai mewn angen yn ein plwyf ac nid oes unrhyw un wedi gwrthod hyn.

Rydym yn ddiolchgar  I’r gweinidogion o bob enwad sydd mor barod I ddod atom I wasanaethu a thrwy ras Duw rydym yn edrych ymlaen yn ffyddiog at y dyfodol ac at parhau I gadw drws Capel Annibynwyr Waengoleugoed yn lled agored.

 

 





            Eglwys bywiog, hwyliog a gweithgar sydd yn croesawu pawb - Duw Cariad Yw.
Community Web Kit provided free by BT